 Introduction from Artistic Director, George Vass
Now in its twenty-seventh year, the Presteigne Festival celebrates music, musicians and so much more with a wide variety of vibrant arts events. Our composer-in-residence, Welsh polymath Huw Watkins, is not only an established composer but also an extremely fine piano soloist, accompanist and chamber musician. Two major anniversaries are celebrated this year : the seventieth birthday of our vice-president John McCabe and the bicentenary of the passing of Joseph Haydn, father of the symphony. Uniting these two anniversaries is the first performance of seven specially written Haydn Fantasies by James Francis Brown, Peter Fribbins, John Hawkins, David Matthews, Alan Mills, Matthew Taylor and Hugh Wood.
The Presteigne Festival has for many years supported and commissioned living composers and this year is especially exciting with important new works from Martin Butler, Gabriel Jackson, David Knotts, Steve Martland, David Matthews and Adrian Williams.
The artist list is amazing, with several Presteigne favourites returning (including cellist Gemma Rosefield, and Australian saxophonist Amy Dickson) whilst many exceptional musicians make their first visit to the Welsh Borders, among them the outstanding British tenor James Gilchrist, the prize-winning Carducci Quartet, the brilliant violinist Alexandra Wood, the Zephirus Saxophone Quartet and talented singers Pippa Goss and Catherine King.
With such remarkable ingredients – fantastic music, superb artists and some of the most beautiful scenery in the United Kingdom – who could fail to enjoy this wonderful Festival? I look forward to welcoming you. | |  Cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Artistig, George Vass
A hithau bellach yn ei seithfed flwyddyn ar hugain, mae Gwyl Llanandras yn dathlu cerddoriaeth, cerddorion a chymaint mwy gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau celfyddydol bywiog. Mae ein cyfansoddwr preswyl, y polymath Cymreig HuwWatkins, nid yn unig yn gyfansoddwr sydd wedi hen ennill ei blwyf ond hefyd yn unawdydd piano, cyfeilydd a cherddor siambr gwych dros ben. Mae dau ben-blwydd o bwys yn cael eu dathlu eleni: pen-blwydd ein his-lywydd, John McCabe, yn ddeg a thrigain oed, a deucanmlwyddiant marwolaeth Joseph Haydn, crëwr y symffoni. Bydd y ddau ben-blwydd hyn yn cael eu huno ym mherfformiad cyntaf saith o Ffantasïau mewn Teyrnged i Haydn sydd wedi eu cyfansoddi’n arbennig gan James Francis Brown, Peter Fribbins, John Hawkins, David Matthews, Alan Mills, Matthew Taylor a Hugh Wood.
Ers blynyddoedd lawer, bu Gwyl Llanandras yn cefnogi ac yn comisiynu cyfansoddwyr byw; ac mae eleni’n arbennig o gyffrous yn y cyswllt hwn, gyda gweithiau newydd pwysig gan Martin Butler, Gabriel Jackson, David Knotts, Steve Martland, David Matthews ac Adrian Williams.
Mae’r rhestr perfformwyr yn rhyfeddol: mae sawl un o ffefrynnau Llanandras yn dychwelyd (gan gynnwys y soddgrythores Gemma Rosefield, a’r sacsoffonydd Amy Dickson), tra bydd llawer o gerddorion eithriadol yn ymweld â Gororau Cymru am y tro cyntaf, yn eu plith y tenor Prydeinig nodedig James Gilchrist, Pedwarawd arobryn Carducci, y feiolinydd dawnus AlexandraWood, Pedwarawd Sacsoffonau Zephirus, a’r cantorion talentog Pippa Goss a Katherine Allen.
A hithau’n cynnwys elfennau mor hynod – cerddoriaeth tan gamp, perfformwyr rhagorol, a rhai o’r golygfeydd prydferthaf yn y Deyrnas Unedig – pwy allai fethu â mwynhau’r wyl ryfeddol hon? Rwy’n edrych ymlaen at gael eich croesawu. |